Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru | Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales

CR 25

Ymateb gan: Dyfodol i’r laith
Response from:
Dyfodol i’r laith

 

1.       Rhagymadrodd - Dyfodol i’r Iaith

1.1     Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles yr iaith Gymraeg. Nod y mudiad yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg ym mhob maes polisi. Bydd yn gweithredu er budd Cymru a’i phobl, gan ennill cefnogaeth a pharch i’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn fater byw ar yr agenda gwleidyddol.

1.2   Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Byddwn yn canolbwyntio yn bennaf ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm newydd.

2.     Y Gymraeg o fewn y Cwricwlwm

2.1   Credwn ei bod yn bwysig sicrhau cyfleoedd teg i holl blant a phobl ifanc Cymru ddod yn rhugl ddwyieithog, bod yn ymwybodol o gyfnodau pwysig yn hanes a datblygiad Cymru a phrofi diwylliant amrywiol Cymru. Mae’n hanfodol ystyried sut bydd y Cwricwlwm yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt. Mae hyn yn allweddol er mwyn ymgorffori’n llawn y pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm newydd. Yn benodol, o ystyried y Gymraeg a hanes a diwylliant Cymru, mae’r canlynol yn arbennig o berthnasol:

“Bydd ein holl blant a phobl ifanc….

·         yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:

Ø  yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg

·         yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:

Ø  yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd

Ø  yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd

Ø  yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol

Ø  yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol… ac yn barod i fod yn ddinasyddion o Gymru a’r byd.”

2.2I addysgu’r Gymraeg yn effeithiol a pherthnasol, mae’n rhaid i’r iaith gael ei     

chyflwyno yng nghyd-destun cymdeithasol a hanesyddol Cymru.  I gydredeg â’r dysgu, mae angen rhaglen gyflawn o ymwybyddiaeth iaith.  Cytunwn ag Argymhelliad 4 Adroddiad Sioned Davies, Un Iaith i Bawb, Llywodraeth Cymru, 2013: “Llywodraeth Cymru i wneud cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol Cymru a’r Gymraeg yn rhan annatod o’r cwricwlwm ar draws pob pwnc er mwyn i ddisgyblion ddod i ddeall cyd-destun yr iaith a deall cyfraniad yr iaith i Gymru a Chymreictod”.  

2.3 Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r bwriad i addysgu ac asesu’r Gymraeg fel Un Iaith yn

hytrach na dilyn y patrwm hanesyddol o Iaith Gyntaf / Ail Iaith sydd wedi creu rhaniad annerbyniol o ran cynnig mynediad at yr iaith a chyfleoedd i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. Yn llawer rhy aml yn y sector cyfrwng Saesneg, oherwydd prinder athrawon arbenigol y Gymraeg, bodolaeth (tan yn ddiweddar) dau faes astudio Ail Iaith (cwrs byr a chwrs hir) a diffyg cyfleoedd ar gyfer profiadau cyfrwng Cymraeg, mae’r safon addysgu a phrofiadau disgyblion yn y dosbarth - ac yn allgyrsiol - wedi amrywio’n sylweddol. Mae angen datrys yr heriau recriwtio athrawon y Gymraeg a hefyd, er mwyn llwyddo, mae’n bwysig bod pob athro’n deall gwerth yr iaith Gymraeg a buddion gwybyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd.

2.4 Profwyd mai model ysgol Gymraeg (lle mae’r rhan fwyaf o’r dysgu trwy gyfrwng y

Gymraeg, a lle mae’r gweithgareddau allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg, a hyn i bob disgybl) yw’r unig fodel effeithiol sydd gennym o gyflwyno sgiliau cyflawn yn y ddwy iaith i ddisgyblion. Dylai cynyddu ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly, fod yn allweddol wrth ddatblygu’r cwricwlwm.

2.5 Ni chredwn bod disgyblion sy’n dilyn y Gymraeg fel pwnc, ond sy’n dilyn y cyfan neu’r

rhan fwyaf o’u pynciau eraill trwy gyfrwng y Saesneg, yn debygol o allu cyrraedd yr un safonau sgiliau â disgyblion ysgolion Cymraeg.  Yn sgil hyn, wrth gyflwyno’r Cwricwlwm newydd, mae hi’n hanfodol bwysig bod cynnydd yn nifer y pynciau a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

2.6 Credwn ei bod yn allweddol bod profiad holl ddisgyblion Cymru o ddysgu’r Gymraeg yn

un cadarnhaol ac o safon uchel – er tegwch a pharch iddynt oll ac er tegwch i’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm. 

2.7 Rydym yn croesawu camau cadarnhaol tuag at greu un Continwwm ac ystyriaeth o sut i

sicrhau tegwch wrth asesu cyrhaeddiad disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol. Nid yw’n glir i ni ar hyn o bryd faint o waith ychwanegol sydd ar ôl yn y meysydd hyn.

2.8 Mae gan Dyfodol i’r Iaith bryderon difrifol am nifer o faterion sydd yn bygwth tanseilio’r gwaith pwysig o ddatblygu’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm newydd.

3.     Y Gweithlu Addysg – Addysg Gychwynnol Athrawon

3.1   Mae gan Dyfodol i’r Iaith bryderon mawr na fydd y gweithlu addysg (yn arweinwyr ysgol, athrawon, cynorthwywyr dosbarth, gweithlu cefnogi addysg anghenion ychwanegol a myfyrwyr cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon) yn barod ar gyfer yr heriau o sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu i safon uchel yn y sector cynradd ac uwchradd – ym mhob ysgol.

3.2 Mae sicrhau bod niferoedd digonol o athrawon â sgiliau o safon uchel i addysgu’r Gymraeg yn allweddol os yw’r Cwricwlwm newydd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu o fewn ein hysgolion a bod disgyblion o bob oed yn derbyn addysg o safon uchel.

3.3 Mae’r prinder o athrawon arbenigol y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg wedi tanseilio’r Gymraeg fel pwnc ers blynyddoedd. Medd yr Athro Sioned Davies, “Bydd llwyddiant Cymraeg ail iaith yn y tymor hir yn dibynnu ar recriwtio a hyfforddi niferoedd digonol o athrawon Cymraeg ail iaith brwdfrydig a medrus.”[1] Mae angen arbenigwyr i ddatblygu sgiliau ieithyddol disgyblion ac yng Nghymru ar hyn o bryd mae athrawon arbenigol y Gymraeg yn llawer rhy brin. Mae angen cynllunio’n strategol i gynyddu’r niferoedd o athrawon y Gymraeg sydd yn cael eu hyfforddi (ar gyfer y sector uwchradd a’r sector cynradd). Mae, hefyd, angen cynllunio’n strategol i wella sgiliau Cymraeg darpar athrawon yn gyffredinol a gwella ymwybyddiaeth darpar athrawon o fanteision dwyieithrwydd a phwysigrwydd y Gymraeg.

3.4 Gosodwyd targedau uchelgeisiol yn Cymraeg 2050 i gynyddu’r niferoedd o athrawon sydd yn addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac athrawon sydd yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. O ystyried problemau recriwtio i’r proffesiwn, yn gyffredinol, a’r lleihad yn y niferoedd sydd yn dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon, rydym yn bell o gyrraedd y targedau hyn ac mae angen gweithredu’n strategol ac ar frys. Yn ôl Gwerthusiad o Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol Athrawon a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018: “Hyd yn oed gan ddiystyrru’r rhai sy’n debygol o adael y proffesiwn dros y tair blynedd ar ddeg nesaf mae angen i ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon bron â dyblu nifer yr hyfforddeion sy’n cael eu hyfforddi’n flynyddol er mwyn cyrraedd y targedau hyn.”

3.5 Mae’r Gwerthusiad yn galw am newidiadau sylweddol gan gynnwys digon o adnoddau ar gyfer ymgyrch hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon wedi ei thargedu’n effeithiol. Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhannu’r pryderon a fynegir yn y Gwerthusiad ac yn cefnogi’r galw am ymgyrch a gweithredu strategol er mwyn cynyddu’r niferoedd o athrawon y Gymraeg ac athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y Cwricwlwm newydd.

3.6 Mae’r diffyg gwybodaeth a diffyg cysondeb wrth ddiffinio cyrsiau cyfrwng Cymraeg Addysg Gychwynnol Athrawon yn creu problemau i ddarpar hyfforddeion cyn iddynt ddechrau ar eu cyrsiau, a, hefyd, yn creu heriau i ddarpar gyflogwyr o ran deall faint o waith cyfrwng Cymraeg a fu’n rhan o’r hyfforddiant.

3.7 Credwn y dylid cynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg fel maes dysgu / pwnc fel un o’r meini prawf ar gyfer achredu unrhyw Addysg Gychwynnol Athrawon o dan y trefniadau newydd sydd ar fin dod i rym. Mae hyn yn allweddol ar gyfer sicrhau gweithlu digonol er mwyn ateb gofynion y Cwricwlwm newydd yn y dyfodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn gosod hyn fel blaenoriaeth yn y broses achredu.

3.8 Mae’r gweithlu yn allweddol i lwyddiant y Cwricwlwm newydd ac mae’n allweddol mynd i’r afael â’r prinder yn y meysydd hyn er mwyn rhoi cyfle teg i ysgolion lwyddo wrth gyflwyno’r Cwricwlwm. Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn barod yn ei chael hi’n anos recriwtio nag ysgolion cyfrwng Saesneg ac mae’r gostyngiad mewn hyfforddeion addas yn mynd i waethygu’r sefyllfa hon.

4. Y gweithlu addysg – presennol

4.1   Mae data Cyngor y Gweithlu Addysg yn adlewyrchu’r prinder o athrawon sydd yn medru’r Gymraeg a medru addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid yw’r data’n ddigonol.

4.2 Mae’r data am geisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg yng Nghymru yn adlewyrchu’r prinder, gyda niferoedd sylweddol llai yn ymgeisio am swyddi cyfrwng Cymraeg tra bod ail-hysbysebu swyddi arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn digwydd yn fwy aml nag yn y sector cyfrwng Saesneg. Mae’r prinder yn fygythiad amlwg i lwyddiant y Cwricwlwm newydd i allu cyflawni’r gofynion o ran y Gymraeg ac o ran ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau.

4.3 Mae’n amlwg na fydd Addysg Gychwynnol Athrawon yn ateb y gofyn am nifer digonol o athrawon arbenigol y Gymraeg ac athrawon cyfrwng Cymraeg yn y tymor byr nac, efallai, yn y tymor canolig. Mae’n bwysig, felly, sicrhau bod athrawon sydd yn barod yn rhan o’r gweithlu, a’r rhai sydd yn dymuno dychwelyd i’r gweithlu yn dilyn toriad gyrfa, yn cael mynediad at gyfleoedd cyson i wella eu sgiliau Cymraeg a’u hymwybyddiaeth am y Gymraeg a dwyieithrwydd yn ogystal ag at bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru. Ni fydd hyn yn digwydd heb ymdrech strategol i adnabod sgiliau’r gweithlu a bod cynllunio ar gyfer darpariaeth addas wedi ei deilwra. Mae yna dystiolaeth bod rhai aelodau o’r gweithlu presennol yn agored i dderbyn mwy o hyfforddiant er mwyn gwella’u sgiliau Cymraeg – mae’r diddordeb yno ac mae angen manteisio ar hyn.

4.4 Mae’r cwestiynau am sgiliau Cymraeg yn holiadur gweithlu addysg Cymru “Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol”[2] (2016/17) yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran casglu gwybodaeth am y gweithlu’n gyffredinol. Roedd yr ymateb i’r Arolwg yn ddewisol, roedd modd dewis mwy nag un cymhwyster yn y cwestiwn am sgiliau Cymraeg ac nid oes modd adnabod unigolion wrth yr ymatebion. Serch hynny, mae’r canlyniadau’n ddiddorol ac yn dangos ewyllys da aelodau o’r proffesiwn o ran yr awydd i ddatblygu sgiliau Cymraeg:

·         Dros 5,000 o athrawon yn ymateb i’r cwestiwn gyda 1,751 yn nodi nad oedd ganddynt unrhyw gymhwyster yn y Gymraeg

·         Roedd gan y gweddill amrywiaeth o gymwysterau (e.e. TGAU ail iaith / iaith gyntaf, cymwysterau Cymraeg i oedolion, gan gynnwys y cynllun sabothol, a 406 ohonynt â gradd yn y Gymraeg.

·         Roedd 916 o ymatebwyr (18%) wedi nodi’r dymuniad i dderbyn hyfforddiant er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Mae angen manteisio ar yr awydd i dderbyn datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg a sicrhau bod athrawon yn cael mynediad hwylus at hyfforddiant yn y Gymraeg, neu ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ystod y diwrnod gwaith. Byddai hyn o fudd iddynt hwy yn eu gyrfa a hefyd o fudd i’w disgyblion a’u hysgolion wrth gyflwyno’r Cwricwlwm newydd.

4.5 Mae angen buddsoddi yn y gweithlu presennol, ac mewn rhai achosion, lle nad yw’n bosibl datblygu sgiliau Cymraeg mae, o leiaf, angen gwella ymwybyddiaeth athrawon am yr iaith Gymraeg, pwysigrwydd dwyieithrwydd, polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru a phwysigrwydd y Gymraeg o fewn y Cwricwlwm newydd.

4.6  Mae’n allweddol sicrhau bod yr athrawon sydd yn addysgu’r Gymraeg yn y sectorau Cynradd ac Uwchradd wedi eu hyfforddi ar gyfer cyflwyno’r iaith fel un continwwm.  Mae’n bwysig hefyd bod athrawon yn derbyn anogaeth a hyfforddiant am sut i gyfrannu at greu ethos Gymraeg yn yr ysgol. Yn ogystal, mae angen sicrhau amser digonol i’r Gymraeg o fewn amserlen pob disgybl ym mhob ysgol. Mae angen tegwch ar bob disgybl, pob athro a phob maes dysgu wrth gyflwyno’r Cwricwlwm newydd.

4.7 Yn hanesyddol, mae llawer o ysgolion uwchradd yn y sector cyfrwng Saesneg wedi ei chael hi’n anodd sicrhau bod arbenigwyr yn y Gymraeg yn addysgu ail iaith, ac mae hyn wedi cyfrannu at ddarpariaeth annigonol o wersi ar gyfer dosbarthiadau arholiad (e.e. un awr yr wythnos). Mae’n allweddol yn awr datblygu sgiliau’r gweithlu presennol a datrys problemau recriwtio gweithlu’r dyfodol fel mater o frys.

4.8 Mae angen uwchraddio ymwybyddiaeth iaith a hefyd sgiliau Cymraeg arweinwyr ysgol, athrawon a chynorthwywyr dosbarth, a’r rhai sydd yn ymwneud â chefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

4.9 O gofio, erbyn hyn, bod dros 23,000[3] o aelodau staff cynorthwyol (cyfwerth â llawn amser) mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru – a llawer ohonynt naill ai’n gweithio yn y Cyfnod Sylfaen neu’n gweithio un-i-un gyda disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol (cynradd ac uwchradd), mae’n rhaid sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant i wella’u sgiliau Cymraeg hwy. Mae angen datblygu eu sgiliau Cymraeg / cyfrwng Cymraeg i’w galluogi i roi cefnogaeth safonol i athrawon sydd yn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd.

4.10         Rhaid peidio anghofio rôl allweddol arweinwyr ysgol o ran gosod seiliau a disgwyliadau cadarn a heriol ar gyfer eu hysgolion.

4.11            Dim ond trwy ganolbwyntio ar sgiliau’r gweithlu addysg y gellir sicrhau cyfle teg i holl ddisgyblion Cymru ddatblygu eu sgiliau iaith a dwyieithrwydd.

5. Y Gweithlu Addysg – Safonau Proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus

5.1 Mae’r Safonau Proffesiynol diwygiedig ar gyfer athrawon yn cynnwys disgwyliadau am ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg ac mae hyn i’w groesawu. Mae’n bwysig cefnogi’r gweithlu addysg yn adeiladol i gyrraedd y nod trwy fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus addas wedi ei deilwra. Mae angen buddsoddiad mewn amser ac adnoddau – golyga hyn fuddsoddiad ariannol.

5.2 Credwn na fydd modd cyrraedd y Safonau hyn oni bai bod anogaeth cyson a hyfforddiant ar gael, a bod y safonau sydd yn berthnasol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau Cymraeg, a hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, yn destun trafodaeth broffesiynol gyson (o leiaf yn flynyddol). Mae angen ymrwymiad cadarn i hyn er mwyn gwella gwybodaeth athrawon am yr iaith a hefyd am ddiwylliant Cymru sydd yn bwysig o ran cyflwyno’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm newydd, cyrraedd y Safonau Proffesiynol a hefyd gwireddu polisi Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050.

5.3 Rhaid sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer addysgu cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau yn y Gymraeg yn cael swm teg o’r arian a ddyrennir ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus a bod hyn yn cael ei wario’n strategol er lles athrawon a disgyblion. Mae angen sicrhau bod adnoddau addas ar gyfer hyfforddiant mewn amrywiaeth o ddulliau ar gael yn y Gymraeg ac am y Gymraeg.

5.4 Mae angen ystyried, hefyd, sut i ehangu gwybodaeth am hanes a diwylliant Cymru a chynnig cyfleoedd i athrawon ddatblygu sgiliau a gwybodaeth o ran addysgu’r meysydd hyn.

6. Adnoddau i gefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm

6.1 Yn hanesyddol, mae athrawon sydd yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi wynebu prinder neu ddiffyg adnoddau wrth ddechrau addysgu manylebau cyrsiau TGAU a Safon Uwch newydd. Mae hyn wedi gosod straen ychwanegol sylweddol ar yr athrawon hynny, gan arwain yn aml at greu adnoddau eu hunain neu waith cyfieithu sylweddol yn ychwanegol at eu gwaith addysgu.

6.2 Mae athrawon nad ydynt yn addysgu disgyblion ar gyfer arholiadau allanol hefyd â llai o ddewis o adnoddau yn y Gymraeg nac yn y Saesneg ac ar adeg o ddiwygio eang mae yna berygl na fydd digon o adnoddau ar gael mewn da bryd. 

6.3 Mae’n bwysig sicrhau bod amrywiaeth digonol ac eang o adnoddau Cymreig a chyfrwng Cymraeg addas ar gael cyn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd er mwyn hwyluso’r broses baratoi ar gyfer athrawon ym mhob sector ac ym mhob maes dysgu a phrofiad. Mae’n allweddol sicrhau bod adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd ac mewn da bryd.

6.5 Yn ôl Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, “Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion,” a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2018, mae’r problemau’n ymwneud â chyhoeddi adnoddau cyfrwng Cymraeg yn rhai systemig. Mae’n allweddol comisiynu mewn da bryd a hefyd gosod mwy o bwyslais ar gomisiynu adnoddau Cymreig a’u cynhyrchu yng Nghymru.

6.6 Mae’n anodd dweud ar hyn o bryd faint o adnoddau sydd yn cael eu cynhyrchu’n barod i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd. Mae rhai Ysgolion Arloesi wrthi’n paratoi adnoddau fel rhan o’r gwaith arbrofi a pharatoi ond mae’n anodd gwybod faint o adnoddau a fydd ar gael, ac a fyddant yn addas ar draws Cymru ac ar gael yn ddwyieithog ar yr un pryd?

6.7 Mae yna berygl bod unrhyw gynllunio strategol ar gyfer comisiynu adnoddau yn cael ei oedi wrth ddisgwyl cyhoeddi manylion am y Cwricwlwm (ar gyfer derbyn adborth) yn Ebrill 2019.

7. Cymwysterau

7.1 Mae’n ymddangos bod ansicrwydd yn parhau o ran beth fydd yn digwydd i gyrsiau arholiad (disgyblion ôl-14) yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd. Er mwyn sicrhau cyfleoedd teg i holl ddisgyblion Cymru, mae’n rhaid bod yn barod i gynnig profiadau o safon uchel i ddisgyblion o’r Cyfnod Sylfaen i Flwyddyn 7, ym mhob maes dysgu a phrofiad, ac yna sicrhau bod popeth yn ei le mewn da bryd ar gyfer Bl.8 a Bl.9 a dosbarthiadau arholiad yn eu tro.      

7.2 Er mai hyd at Blwyddyn 7 y bydd y Cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i gychwyn (Medi 2022), er tegwch i athrawon a disgyblion, mae angen caniatáu digon o amser i athrawon gynllunio a pharatoi a chaniatáu digon o amser rhwng cyhoeddi manylebau newydd TGAU a’u haddysgu. Mae’n bwysig cael manylebau newydd yn barod mewn da bryd ac osgoi’r rhuthr sydd wedi bodoli yn y gorffennol. Mae’r pwyntiau cyffredinol uchod am adnoddau yn allweddol, hefyd, ar gyfer cyrsiau arholiad newydd – rhaid cael adnoddau addas (cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg) ar gael o leiaf flwyddyn cyn cyflwyno’r cyrsiau newydd.

7.3 O ran y Gymraeg, bydd angen sicrhau dulliau teg o asesu a chydnabod deilliannau disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol wrth asesu gallu disgyblion ar y Continwwm Cymraeg newydd am y tro cyntaf.

8. Materion amrywiol

8.1 Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod teimladau o ansicrwydd yn parhau o ran sut bydd disgwyl i ysgolion weithredu’r Cwricwlwm newydd. Mae disgwyl i’r Ysgolion Arloesi arbrofi a bod yn arloesol – a deallwn bod gwaith diddorol dros ben yn digwydd. Nid yw pob ysgol yn dilyn yr un trywydd, wrth gwrs, oherwydd natur arloesi.  

8.2 Mae’r amcan o osod llawer o’r gwaith ar y Cwricwlwm newydd yn nwylo’r proffesiwn i’w groesawu, ond mae yna berygl hefyd o arwain at ansicrwydd, yn enwedig ar gyfer yr ysgolion hynny nad ydynt yn syrthio i gategori ysgol arloesi. Deallwn bod rhai ysgolion yn cyd-weithio gydag ysgolion eraill ac yn rhannu syniadau a gwybodaeth. Ar y llaw arall, gan fod y cyfnod yma o arloesi yn gyfnod o gwestiynu ac arbrofi, nid oes gan hyd yn oed yr ysgolion arloesi sicrwydd y bydd eu syniadau’n cael eu derbyn. Mae’r broses ei hun yn werthfawr, serch hynny.

8.3 Mae’n ymddangos bod ysgolion yn disgwyl derbyn mwy o wybodaeth yn y gwanwyn a fydd yn rhoi darlun mwy eglur o’r Cwricwlwm newydd.

8.4 Cred Dyfodol i’r Iaith bod angen rhai canllawiau cadarn er mwyn amlinellu disgwyliadau o ran lle’r Continwwm Cymraeg, a phwyslais ar hanes a diwylliant Cymru, yn y Cwricwlwm newydd – a bydd angen cyfathrebu’r negeseuon hyn yn glir i bob ysgol ac athro.

9. Hinsawdd Ariannol

9.1 Rhaid peidio ag anghofio bod ysgolion Cymru’n wynebu disgwyliadau sylweddol o ran diwygio’r Cwricwlwm ar adeg o gynni ariannol sylweddol. Mae perygl i’r heriau cyllidol danseilio ymdrechion i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd a datblygu gwell trefniadau ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, Datblygiad Proffesiynol Parhaus (i’r holl weithlu) ac Arweinyddiaeth. 

9.2 Mae’n allweddol cynllunio’n strategol yn yr holl feysydd a drafodir uchod er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau ariannol sydd ar gael.     

Dyfodol i’r Iaith

Rhagfyr 2018



[1] Para. 4.70, Un Iaith i Bawb, Llywodraeth Cymru, 2013.

[2] Arolwg Gweithlu Addysg Cymru, Adroddiad Ymchwil, Ebrill 2017

[3] Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) 2018